Y 75fed eitem a dderbyniodd Archifau Morgannwg ym 1976 oedd Cofnodion Bwrdd Dŵr Cwm Rhymni. Sefydlwyd y Bwrdd ym 1921, yn dilyn sawl blwyddyn o ymgyrchu ac arweiniodd at basio Bil Bwrdd Dŵr Cwm Rhymni.
Roedd y Bwrdd yn cynnwys cynghorwyr o Gelligaer, Bedwellte, Bedwas a Machen, Mynyddislwyn, Rhymni a Chaerffili. Roedd ganddo’r grym i gaffael rhai gweithiau a gweithgareddau dŵr ac i adeiladu gwaith dŵr newydd, yn ogystal â chyflenwi dŵr. Daeth y dŵr ei hun gan Fwrdd Cyflenwi Dŵr Taf Fechan ac mae cofnodion y Bwrdd hwnnw gennym hefyd yn Archifau Morgannwg.
Er mai ym 1921 y sefydlwyd y Bwrdd, mae’r cofnodion yn dyddio o 1916; mae’r eitemau hyn yn cynnwys toriadau papur newydd yn olrhain adroddiadau ar yr ymgyrch i greu’r Bwrdd. Mae’r cofnodion yn parhau hyd at 1966.
Mae Cofnodion Bwrdd Dŵr Cwm Rhymni yn cynnwys 45 cyfrol o lyfrau cofnodion, cyfrifon, adroddiadau peirianwyr a thoriadau papur newydd.
Mae cofnodion byrddau bwrdeistrefol fel Bwrdd Dŵr Cwm Rhymni yn ffynhonnell gyfoethog o wybodaeth ar gyfer unrhyw un sy’n astudio datblygiad llywodraeth leol a gwleidyddiaeth leol yng Nghymru.