Mae’r 75fed eitem a dderbyniwyd yn 2012 yn cynnwys cofnodion cangen Glan-yr-afon y Blaid Lafur. Mae ward etholiadol Glan-yr-afon yn cynnwys maestrefi canolog Caerdydd ar lan orllewinol afon Taf, a gorwedda o fewn etholaeth seneddol Gorllewin Caerdydd.
Mae’r eitem hon yn cynnwys cofnodion cyfarfodydd misol y Blaid Lafur o 1975 – 1986, yn ogystal â gohebiaeth arall a dderbyniwyd gan y gangen, ar lefel leol a chenedlaethol, gan gynnwys, er enghraifft, manylion agoriad terminws trên lwythi yn Abertawe ym 1969.
Wedi ei guddio rhwng tudalennau un o’r llyfrau cofnodion cyfarfodydd ceir map manwl o ardal Glan-yr-afon.
Gyda’i gilydd mae’r dogfennau hyn yn rhoi ciplun o sut roedd y gangen hon o’r Blaid Lafur yn gweithredu yn y 1970au a’r 1980au.
Cafodd yr eitem ei chyflwyno i’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yn wreiddiol. Yn 2012 cafodd ei throsglwyddo i Archifau Morgannwg fel y man lleol priodol i’w chyflwyno.
Mae gan Archifau Morgannwg cofnodion amryw blaid gwleidyddol lleol a byddwn yn croesawi unrhyw ychwanegiadau i’r casgliadau yma.